Beibl i Gymru
Un o’n breintiau
mawr fel Cymry yw bod gennym yr Ysgrythurau Sanctaidd yn ein hiaith ein
hun. Anodd yw mesur yr
effaith a’r ddylanwad mae hyn wedi ei
gael ar ein gwlad. Ac felly cyfrifoldeb Eglwys Iesu Grist ym mhob oes
yw diogelu a chyflwyno Gair Duw i’w dydd. Wrth
ystyried ein sefyllfa bresennol, rydym eisiau cynllunio i’r dyfodol mewn ffydd, ac am ofyn, “Sut gallwn ni sicrhau
Beibl Cymraeg safonol, cywir a dealladwy ar gyfer y dyfodol?” Wrth gwrs,
gellir ateb y cwestiwn hwnnw mewn llawer o ffyrdd. Mae posibiliadau lu, ac efallai bydd angen sawl
ymateb er mwyn cynnig darpariaeth gyflawn. Felly, ar y 10fed o
Fedi 2018, fe galwyd ymynghoriad yn Aberystwyth i drafod y mater. Bwriad y diwrnod oedd ceisio llunio asesiad teg o’r sefyllfa bresennol, a dechrau ystyried y posibliadau i’r dyfodol. Mae’r wefan
hon yn ceisio casglu deunyddiau’r diwrnod at ei gilydd, parhau gyda’r drafodaeth, a cheisio penderfynu beth yw’r camau
nesaf. Dewch i ymuno a’r sgwrs. Yr Ymgynghoriad
Ar y 10fd o
Fedi 2018, cynhaliwyd ymgynghoriad
agored yn Aberystwyth. Bwriad y cyfarfod hwn oedd ceisio
llunio asesied teg o’r sefyllfa
bresennol a dechrau’r drafodaeth am anghenion y dyfodol. Wrth ddilyn y dolennau isod gellir gweld
enghreifftiau o’r deunydd cyflwynwyd yn ystod y diwrnod.
Yn gyffredinol cytunwyd bod tair prif ystyriaeth
i unrhyw brosiect posib, sef: ·
Y testunau gwreiddiol – Pa destunau i’w defnyddio, pwy sydd a’r sgiliau
ieithyddol angenrheidiol,
a sut mae sicrhau’r sgiliau yma i’r
dyfodol. ·
Y broses cyfieithu – Pa fethodoleg a ddefnyddir wrth gyfieithu, ai cyfieithu ffurfiol neu ddeinamig? ·
Yr iaith Gymraeg – Pa lefel o iaith ddylid ei defnyddio a sut fydd natur
yr iaith yn newid yn
ystod y degawdau nesaf? Y bwriad yw ceisio parhau’r drafodaeth o dan y tair pennawd yma. Gallwch gyfrannu at y drafodaeth drwy anfon unrhyw
ddeunydd i gwybodaeth@beibligymru.com
Yr Ieithoedd Gwreiddiol
Yr ystyriaeth mawr cyntaf wrth drafod
unrhyw brosiect newydd yw ynglyn
a’r testunau a ieithoedd gwreiddiol. Rydyn ni bob amser angen ceisio mynd nol mor
agos ag y gallwn at yr
hyn ysgrifennwyd yn wreiddiol, a sicrhau ein bod
ni’n deall yr hyn a ddywedwyd.
Mae hyn yn golygu nid yn
unig penderfynu ar y fersiynau a ddefnyddir wrth gyfieithu, ond adnabod a hyfforddi pobl sydd a’r
doniau i ymdrin a’r Hebraeg, Aramaeg a Groeg. Y Broses
Cyfieithu
Ystyriaeth pellach wrth drafod unrhyw waith cyfieithu yw’r methodoleg a ddefnyddir wrth trosi o’r iaith
gwreiddiol i iaith newydd. Yn gyffredinol
gellir gwahaniaethu rhwng dwy prif
dull. Mae’r methodoleg gyntaf yn ceisio cyfeithu
yn ffurfiol, neu gair am
air, fel bod y gair gwreiddiol yn cael ei throsi
i air cyfatebol mor agos a phosib, hyd yn oed
os yw hynny
yn golygu fod deall bwriad
gwreiddiol yr awdur yn anodd
i’r darllenydd. Anfantais y dull hwn yw bod
perygl i’r ystyr gwreiddiol gael ei cholli. Yr ail methodoleg yw cyfieithu deinamig, sydd yn rhoi llai
o bwyslais ar yr union eiriau a ddefnyddir, ac yn hytrach sydd
yn ceisio cyfleu yr ystyr
gwreiddiol i’r darllenydd. Anfantais y dull hwn yw
bod fwy o ddehongli personol y cyfieithydd yn dylanwadu ar y testun. Yr Iaith Gymraeg
Efallai yr ystyriaeth mwyaf heriol wrth drafod
cyfieithiad Cymraeg newydd, yw pa
lefel o Gymraeg ddylid ei defnyddio. Ai iaith ffurfiol, neu iaith lafar?
Mae’r fersiynau presennol i gyd yn gwynebu’r cyhuddiad gan rhai pobl o fod
yn anodd i’w deall. Sut mae osgoi hyn, yn
arbennig wrth ystyried fod patrymau ieithyddol yn gallu newid
dros amser? |